Tudalen Lawrlwytho

Bydd arnoch angen Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur er mwyn darllen ac argraffu ffeiliau sydd wedi'u harbed ar ffurf PDF. Mae'r mwyafrif o gyfrifiaduron yn arsefydlu Acrobat yn awtomatig, am ei fod yn cael ei ddefnyddio gyda'r llawlyfrau ar-lein a'r ffeiliau help ar-lein ar gyfer meddalwedd cyfrifiaduron, ond os nad yw ar eich cyfrifiadur chi, gallwch arsefydlu Acrobat am ddim nawr.

Cliciwch ar yr eicon i arsefydlu Acrobat Reader

 

Adnoddau Dosbarth

Cwricwlwm Gwasanaeth Cerdd Sir Caerfyrddin

 


 

Adnoddau Dosbarth

Mae croeso i’r adnoddau dosbarth canlynol gael eu lawrlwytho a’u defnyddio. Os oes gennych unrhyw adnoddau yr hoffech eu rhannu ag athrawon eraill, a fyddwch chi gystal â chysylltu ag Emyr Wynne Jones.

 

Map Sgiliau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 (PDF)

Mae’r map sgiliau yn enghreifftio’r sgiliau hynny y dylai ddatblygu wrth I blant dderbyn addysg gwersi cerdd yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2 a 3. Mae’r sgiliau yn ymddangos o dan bedwar pennawd:

Y sgiliau hyn felly sy’n sylfaen i’r ‘Amcanion Dysgu’ sy’n ymddangos o fewn Cynllun Gwaith Cynradd y Sir, mewn ymgais i sicrhau cynnydd a dilyniant o un cyfnod allweddol i’r llall ac o fewn y cyfnodau hynny hefyd. Drwy fapio allan yr hyn y dylai plant allu ei wneud, ei wybod, a’I ddeall, rydym hefyd yn mapio allan yr hyn y dylai athrawon ei ddisgwyl a’i asesu.

 

Cynllun Gwaith Enghreifftiol Cyfnod Allweddol 1 a 2 (PDF)

Lluniwyd y Cynllun Gwaith gan gyd-gysylltwyr cerdd llwyddiannus a phrofiadol, o dan arweiniad yr Ymgynghorydd. Cynllun enghreifftiol yw yn seiliedig ar fap sgiliau’r AALl am ei amcanion dysgu. Mae’r Cynllun yn cynnig gweithgareddau ac adnoddau amrywiol y gall ysgolion eu defnyddio er mwyn rhoi pob cyfle i’r plant gyflawni’r amcanion dysgu. Mae’r Cynllun enghreifftiol hefyd yn cynnwys arweiniad yngln â’r Gofynion Cyffredinol. Pwrpas cael y ddogfen ar ffurf electronig yw rhoi’r cyfle i ysgolion addasu’r cynnwys at eu dibenion penodol hwy.

Cynllun Gwaith Cyfnod Allweddol 4 (PDF)

Yn seiliedig ar faes llafur CBAC, mae’r Cynllun hwn yn cymryd pob un o’r pum maes astudiaeth yn ei dro. Pwrpas cael y Cynllun fel dogfen electronig yw caniatáu i adrannau cerdd ei addasu ac ategu ato fel y dymunant.

 


'nol i'r pen


 

Cwricwlwm y Gwasanaeth Cerdd Sir Caerfyrddin

Cwricwlwm Cyffredinol (PDF)

Cwricwlwm Llinynnau / Telyn (PDF)

Cwricwlwm Chwythbrennau (PDF)

Cwricwlwm Pres (PDF)

Cwricwlwm Llais (PDF)

Cwricwlwm Allweddell / Gitâr / Drymiau (PDF)

 

 

'nol i'r pen


© 2004 Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin