Croeso i Gwasanaeth Cerdd

Sir Gaerfyrddin

 

Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yn rhan o Adran Dysgu Gydol Oes a Hamdden Sir Gaerfyrddin. Ar y tudalennau hyn gobeithiwn gynnig braslun o'n polisïau, ein cynlluniau a'n llwyddiannau yn ogystal â chipolwg ar yr hyn sydd gan y gwasanaeth i'w gynnig.

Yn bennaf, mae'r gwasanaeth yn cynnig gwersi mewn ystod eang o offerynnau traddodiadol ynghyd ag adran ddatblygol ar gerddoriaeth y byd sy'n cynnwys sosbenni dur ac arddulliau ethnig eraill. Fel rhan o unrhyw hyfforddiant, mae cyfleoedd i berfformio yn hollbwysig - ar hyn o bryd mae gan Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin ystod eang o ensembles ar gyfer pob lefel ac oed.

Mae gan y Gwasanaeth dîm o athrawon lleisiol ac mae'n cynnig nifer o gyfleoedd corawl ar gyfer cantorion ifanc. Mae hyfforddiant roc / pop ac ensembles roc sirol hefyd ar gael drwy'r Gwasanaeth.

Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yw un o'r ychydig yng ngwledydd Prydain sy'n cynnig therapydd cerdd cymwysedig i weithio gyda disgyblon anghenion arbennig yn ysgolion arbennig, ysgolion prif ffrwd ac unedau atodol y sir.

Mae'r gwasanaeth yn cynnig cynhaliaeth ac adnoddau i ysgolion y Sir - heblaw am lyfrgell gerdd fawr fe gynigiwn gynhaliaeth yn yr ystafell ddosbarth i ysgolion cynradd, cynhaliaeth TGCh / Cerdd i bob ysgol a llawer mwy.

Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin (trwy gydweithio â gwasanaeth cyfagos Ceredigion) oedd un o'r gwasanaethau cerdd cyntaf yng ngwledydd Prydain i gynnig ei gwricwlwm ei hun ar gyfer gwersi offerynnol. Mae croeso i rieni ofyn am gopi gan athro/athrawes neu ysgol eu plentyn, neu gallant gysylltu â Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin.

Gellir dadlwytho'r Cwricwlwm o'r dudalen dadlwythiadau.

 

 

 


© 2004 Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin